Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Medi 2013
Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 22 – Safonau Ymddygiad
Diben
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.
2. Mae’r adroddiad yn argymell diwygiadau i Reol Sefydlog 22 mewn perthynas â Safonau Ymddygiad. Mae’r newidiadau y cytunodd y Pwyllgor Busnes arnynt i’w gweld yn Atodiad A, ac mae’r cynnig ar gyfer Rheol Sefydlog newydd i’w weld yn Atodiad B.
Cefndir
3. Cyhoeddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ei Adroddiad ar Sancsiynau ar 15 Mai 2013, a gwnaeth yr argymhelliad a ganlyn:
Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn argymell y dylai Rheolau Sefydlog y Cynulliad:
i) alluogi’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i argymell sancsiwn o waharddiad am fethu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad nad yw’n ymwneud â Rheol Sefydlog 2 - Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill yr Aelodau;
ii) adlewyrchu darpariaethau Rheol Sefydlog bresennol 2.10 drwy beidio â datgan unrhyw isafswm nac uchafswm amser ar gyfer y gwaharddiad;
iii) galluogi’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i argymell tynnu hawliau a breintiau yn ôl, heblaw am dynnu cyflog yn ôl, fel sy’n gysylltiedig â gwaharddiad.
4. Yn ei gyfarfod ar 21 Mai, bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod papur ynghylch yr argymhelliad i adolygu’r Rheolau Sefydlog a wnaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei Adroddiad ar Sancsiynau.
5. Yn y cyfarfod hwnnw, cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ag argymhelliad y Pwyllgor Safonau y dylid diwygio’r Rheolau Sefydlog a nododd mai’r dull y byddent yn ei ffafrio yw rhoi’r pŵer i’r Pwyllgor argymell sancsiynau mewn perthynas â’r materion a restrir yn Rheol Sefydlog 22.2(i), yn hytrach na mewn perthynas â thorri’r Cod Ymddygiad yn unig, er mwyn rhoi cymaint o ddisgresiwn â phosibl i’r Pwyllgor pan fydd yn argymell sancsiynau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Safonau ar y mater.
6. Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad at y Llywydd ar 6 Mehefin, gan gadarnhau y byddai’r Pwyllgor am gael y pŵer i argymell y sancsiwn o waharddiad mewn perthynas â phob mater a restrir yn Rheol Sefydlog 22.2(i), yn hytrach na mewn perthynas â’r Cod Ymddygiad yn unig.
7. Ar 2 Gorffennaf, bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 22 i weithredu argymhelliad y Pwyllgor. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’u grwpiau a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y cynigion.
8. Ar ôl cael cadarnhad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad fod y Pwyllgor yn fodlon â’r newidiadau arfaethedig, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cynigion yn ffurfiol yn ei gyfarfod ar 24 Medi.
Newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog
Y sancsiynau sydd ar gael
9. Yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, bydd y diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 22.10 yn ei alluogi i argymell y sancsyniau a ganlyn mewn perthynas ag unrhyw Aelod y ceir ei fod wedi torri unrhyw fater o dan Reol Sefydlog 22.2(i): cael ei geryddu neu ei wahardd o drafodion y Cynulliad am gyfnod penodedig, tynnu hawliau neu freintiau yn ôl oddi arno, neu unrhyw gyfuniad o’r sancsiynau hynny.
10. Byddai unrhyw Aelod sy’n cael ei wahardd o drafodion y Cynulliad yn colli ei gyflog yn sgîl hynny dros gyfnod y gwaharddiad; dyma’r drefn ar hyn o bryd.
Cynigion
11. O dan ddarpariaethau presennol Rheol Sefydlog 2, os yw Aelod i gael ei wahardd o’r trafodion, rhaid i’r Cynulliad benderfynu gwneud hynny drwy gynnig a gyflwynir gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Mae’r cynnig hwn yn ychwanegol at y cynnig i ystyried adroddiad y pwyllgor o dan Reol Sefydlog 22.9.
12. Gan y bydd pob sancsiwn bellach yn cael ei gynnwys yng nghwmpas Rheol Sefydlog 22, mae’r Rheol Sefydlog ddrafft (Atodiad A) yn cynnig parhau’r broses a ddilynir eisoes o dan Reol Sefydlog 22, sef bod un aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cyflwyno cynnig, sy’n cwmpasu’r ffaith y cafwyd bod toriad a’r sancsiwn a argymhellir. Gofynnir i’r Cynulliad ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r sancsiwn ar sail yr un cynnig, ac ni ellir diwygio cynnig o’r fath.
Cam i’w gymryd
13. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i’r Rheolau Sefydlog ar 24 Medi 2013, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo’r cynnig fel y’i nodir yn Atodiad B.
Atodiad A
RHEOL SEFYDLOG 2 – Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill yr Aelodau |
|
Gwahardd Aelodau a Thynnu Hawliau a Breintiau yn ôl |
|
|
Dileu’r Rheol Sefydlog hon
Gan fod y sancsiwn o waharddiad wedi’i ymestyn i bob mater a gwmpasir yn Rheol Sefydlog 22.2(i), mae darpariaethau’r Rheol Sefydlog hon bellach wedi’u cynnwys yn Rheol Sefydlog 22.10 newydd. |
|
Dileu’r Rheol Sefydlog hon
Gan fod y sancsiwn o waharddiad wedi’i ymestyn i bob mater a gwmpasir yn Rheol Sefydlog 22.2(i), mae darpariaethau’r Rheol Sefydlog hon bellach wedi’u cynnwys yn Rheol Sefydlog 22.10 newydd. |
RHEOL SEFYDLOG 22 – Safonau Ymddygiad |
|
22.2 Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol: (i) mewn perthynas ag unrhyw gŵyn a gyfeirir ato gan y Comisiynydd Safonau bod Aelod heb gydymffurfio: (a) â Rheol Sefydlog 2; (b) ag unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad ynglŷn â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill yr Aelodau; (c) â Rheol Sefydlog 5; (ch) ag unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad ynglŷn â safonau ymddygiad yr Aelodau; (d) ag unrhyw god neu brotocol a wnaed o dan Reol Sefydlog 1.10 ac yn unol ag adran 36(6) o’r Ddeddf; (dd) â Rheol Sefydlog 3; neu (e) â Rheol Sefydlog 4; ymchwilio i’r gŵyn, cyflwyno adroddiad arni ac, os yw’n briodol, argymell camau mewn perthynas â hi; (ii) ystyried unrhyw faterion o egwyddor ynglŷn ag ymddygiad yr Aelodau yn gyffredinol; (iii) goruchwylio’r trefniadau ar gyfer llunio Cofrestr Buddiannau’r Aelodau, y Cofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu Gyda Chymorth Arian y Comisiwn, y Cofnod o Amser y bydd Aelodau yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy a’r Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau, a ffurf a chynnwys y Gofrestr a’r Cofnodion, a’r trefniadau ar gyfer cadw’r Gofrestr a’r Cofnodion a sicrhau eu bod yn hygyrch; a (iv) sefydlu a gosod gerbron y Cynulliad weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion o dan Reol Sefydlog 22.2(i).
|
Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.
Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth. |
22.9 Os yw’r pwyllgor cyfrifol wedi ymchwilio i gŵyn a gyfeiriwyd ato gan y Comisiynydd Safonau, rhaid iddo gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau’r ymchwiliad. |
Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon. |
22.10 Caiff adroddiad o dan Reol Sefydlog 22.9 gynnwys argymhelliad i: (i) ceryddu Aelod; (ii) tynnu unrhyw hawliau neu freintiau Aelod yn ôl fel y nodir yn y gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 22.2(iv); (iii) gwahardd Aelod o unrhyw drafodion y Cynulliad am gyfnod penodedig;
neu unrhyw gyfuniad o’r hyn a nodir uchod, am fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r materion a gynhwysir yn Rheol Sefydlog 22.2(i). |
Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.
Caiff y Rheol Sefydlog hon ei diwygio i gyflwyno sancsiynau sy’n ychwanegol at y sancsiwn ceryddu sy’n bodoli eisoes.
Caiff y Pwyllgor Safonau argymell unrhyw gyfuniad o’r sancsiynau sydd ar gael iddo, a chaiff gymhwyso’r rhain i gŵyn ynghylch unrhyw un o’r materion o dan Reol Sefydlog 22.2(i).
Bydd angen i’r hawliau a’r breintiau y mae modd eu tynnu’n ôl gael eu nodi yn y Weithdrefn ar gyfer Ymchwilio i Gwynion y mae’n rhaid i’r Pwyllgor Safonau ei sefydlu o dan Reol Sefydlog 22.2(iv).
Mae’r weithdrefn yn parhau’r broses a ddilynir eisoes o dan Reol Sefydlog 22, sef bod aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cyflwyno un cynnig, sy’n cwmpasu’r ffaith y cafwyd bod toriad a’r sancsiwn a argymhellir. Gofynnir i’r Cynulliad ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r sancsiwn ar sail yr un cynnig. Ni fyddai modd gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.
|
22.10A Os caiff Aelod ei wahardd yn dilyn argymhelliad o dan Reol Sefydlog 22.10, ni fydd gan yr Aelod yr hawl i gael dim cyflog gan y Cynulliad ac ni chaniateir i’r Aelod fynychu unrhyw drafodion yn y Cynulliad yn ystod cyfnod ei waharddiad. |
Cynnwys Rheol Sefydlog
Caiff geiriad y Rheol Sefydlog ei gymryd o Reol Sefydlog 2.11, y bwriedir ei dileu. Mae’r Rheol Sefydlog yn ei gwneud yn glir bod y sancsiwn o waharddiad yn cynnwys colli cyflog dros gyfnod y gwaharddiad.
|
22.11 Os caiff cynnig i ystyried adroddiad o dan Reol Sefydlog 22.9 ei gyflwyno gan aelod o’r pwyllgor cyfrifol, rhaid trefnu bod amser ar gael cyn gynted â phosibl i’r cynnig gael ei drafod. Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o’r fath. |
Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.
Pe bai Rheolwyr Busnes yn penderfynu y dylai fod dau gynnig, neu y dylai fod modd diwygio’r cynnig/cynigion, byddai angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon. |
Atodiad B
RHEOL SEFYDLOG 2 – Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill yr Aelodau
2.10 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad y Cynulliad ar XX XXXX XXXX]
2.11 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad y Cynulliad ar XX XXXX XXXX]
RHEOL SEFYDLOG 22 – Safonau Ymddygiad
Swyddogaethau
22.2 Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol:
(i) mewn perthynas ag unrhyw gŵyn a gyfeirir ato gan y Comisiynydd Safonau bod Aelod heb gydymffurfio:
(a) â Rheol Sefydlog 2;
(b) ag unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad ynglŷn â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill yr Aelodau;
(c) â Rheol Sefydlog 5;
(ch) ag unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad ynglŷn â safonau ymddygiad yr Aelodau;
(d) ag unrhyw god neu brotocol a wnaed o dan Reol Sefydlog 1.10 ac yn unol ag adran 36(6) o’r Ddeddf;
(dd) â Rheol Sefydlog 3; neu
(e) â Rheol Sefydlog 4;
ymchwilio i’r gŵyn, cyflwyno adroddiad arni ac, os yw’n briodol, argymell camau mewn perthynas â hi;
(ii) ystyried unrhyw faterion o egwyddor ynglŷn ag ymddygiad yr Aelodau yn gyffredinol;
(iii) goruchwylio’r trefniadau ar gyfer llunio Cofrestr Buddiannau’r Aelodau, y Cofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu Gyda Chymorth Arian y Comisiwn, y Cofnod o Amser y bydd Aelodau yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy a’r Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau, a ffurf a chynnwys y Gofrestr a’r Cofnodion, a’r trefniadau ar gyfer cadw’r Gofrestr a’r Cofnodion a sicrhau eu bod yn hygyrch; a
(iv) sefydlu a gosod gerbron y Cynulliad weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion o dan Reol Sefydlog 22.2(i).
Adroddiadau
22.9 Os yw’r pwyllgor cyfrifol wedi ymchwilio i gŵyn a gyfeiriwyd ato gan y Comisiynydd Safonau, rhaid iddo gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau’r ymchwiliad.
22.10 Caiff adroddiad o dan Reol Sefydlog 22.9 gynnwys argymhelliad i:
(i) ceryddu Aelod;
(ii) tynnu unrhyw hawliau neu freintiau Aelod yn ôl fel y nodir yn y gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 22.2(iv);
(iii) gwahardd Aelod o unrhyw drafodion y Cynulliad am gyfnod penodedig;
neu unrhyw gyfuniad o’r hyn a nodir uchod, am fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r materion a gynhwysir yn Rheol Sefydlog 22.2(i).
22.10A Os caiff Aelod ei wahardd yn dilyn argymhelliad o dan Reol Sefydlog 22.10, ni fydd gan yr Aelod yr hawl i gael dim cyflog gan y Cynulliad ac ni chaniateir i’r Aelod fynychu unrhyw drafodion yn y Cynulliad yn ystod cyfnod ei waharddiad.
22.11 Os caiff cynnig i ystyried adroddiad o dan Reol Sefydlog 22.9 ei gyflwyno gan aelod o’r pwyllgor cyfrifol, rhaid trefnu bod amser ar gael cyn gynted â phosibl i’r cynnig gael ei drafod. Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o’r fath.